Taith Bwgan Brain Rhuthun
17 - 22 Mai 2010

Bwrw at i ddychryn brain!

Hwyl a sbri wrth greu eich bwgan eich hun; a dilyn llwybr bwgan brain Rhuthun! Gobeithio y bydd gerddi ac adeiladau Rhuthun yn llawn o fwganod brain lliwgar. Bwgan traddodiadol y cae yd yn fama; bwgan o’ch hoff ganwr pop yn fancw! Pwy a wyr sut fath o fwganod difyr fydd o amgylch y lle! Llond tref o greadigaethau doniol a chlyfar, a gwobr am y gorau. Gwobr arall os yr ewch chi allan i chwilio amdanynt ar y Llwybr Bwgan Brain!

Sut i gystadlu Bwgan eich hun:

Darllenwch y daflen Rheolau a Chystadlu here yna cwbwlhewch y ffurflen cystadlu here
Ar ol ei llenwi, ewch a hi i un o’r siopau a restrir ar waelod y dudalen, gyda’r tal cystadlu, erbyn y 10fed o Mai.

Y Llwybr Bwgan Brain:

Bydd Tafle Cwis y Bwganod ar gael yn y siopau a restrir ar y daflen uchod ar 17 Mai. Cost yw £1 i oedolyn a £0.50 i blentyn. Y nod ydi canfod ble mae pob bwgan yn cuddio drwy y dref! Bydd y bwganod yn cael eu harddangos rhwng 17 a 22 Mai yn unig. Bydd cwestiwn hefyd wrth droed pob bwgan, ac mae angen ichi ei ateb! Gall y bwganod fod mewn gardd, siop, gwesty a chapel. Bydd angen llygaid manwl i’w gweld, a cheisiwch wneud yn siwr nad ydych yn methu’r un. Mae angen i chi fynd a’r Daflen Cwis yn ol i’r un siop erbyn diwedd y dydd ar 22 Mai. Bydd yr enillwyr yn cael eu harddangos ar y safle yma ar 24 Mai, ac yn y papurau lleol yr wythnos ganlynol.

 

Os hoffech noddi’n gweithgareddwch; cysylltwch a Sarah Sarah

Noddir Y Llwybr Bwganod 2010 gan:

 

© Hawlfraint Ymlaen Rhuthun 2010.
Rhaid derbyn caniatad ysgrifennedig Ymlaen Rhuthun cyn defnyddio unrhyw lun neu destyn oddiar y wefan hon.