Llwybr Bwgan Brain 2011
Rheolau a Chystadlu

Gellid llenwi’r Bwgan ag unrhyw beth.

Rhaid cofrestru’r Bwgan erbyn 9fed Mai 2010, a rhoddir Rhif Cystadlu iddo.

Rhaid arddangos y Bwgan o 16 Mai hyd diwedd y dydd ar 21 Mai, a’i osod mewn lle sy’n hawdd i’w ganfod gan berson mewn car..

Rhaid arddangos y Bwgan o 16 Mai hyd diwedd y dydd ar 21 Mai, a’i osod mewn lle sy’n hawdd i’w ganfod gan berson mewn car.

Ar ol ei gofrestru, os nad ydych yn gallu mynd at ii wneud Bwgan, neu yn methu ei arddangos – a fedrwch arddangos eich rhif cofrestru a’r geiriau ‘Dim ar gael’ mewn lle gweladwy tan 21 Mai fel y gall y Beirniad a dilynwyr y Daith Bwgan nodi hynny.

Bydd y trefnwyr yn tynnu llun pob Bwgan, a byddant yn ymddangos ar y safle we yma ar derfyn y gystadleuaeth..

Bydd Beirniad penodol yn dewis y goreuon ym mhob category.

Bydd Taflenni Cwis Llwybr y Bwgan Brain ar gael o 16 hyd 22 Mai 2010. Rhaid ei ddychwelyd erbyn 21 Mai.2011.

Ychydig o Gyngor:


Gallwch fynd a’r Bwgan i le diogel tros nos os ydych eisiau iosgoi difrod gwynt neu fandaliaeth. Cofiwch ei arddangos eto ben bore wedyn!

Gallwch arddangos y Bwgan yn yr ardd, yn y ffenest, neu ar adeilad. Cyhoeddus megis Ysgol, siop, adeilad y cyngor – unrhywle! ‘Mond ichi dderbyn caniatad y perchennog!

Cofiwch ystyried eich diogelwch eich hyn, a diogelwch y cyhoedd wrth i chwi adeiladu ac arddangos eich Bwgan.!

Tal Cystadlu:



Unigolion ac ysgolion £2 - Busnes a chymdeithasau £10

Categoriau’r Bwganod:

Categori 1 – Y Bwgan Traddodiadol

Y Bwgan sy’n dychryn y brain o’r cae yd! Het a chot a wyneb difyr! Y bwgan traddodiadol.

Categori 2 – Y Bwgan Hanesyddol

Gall y Bwgan yma gynrychioli cymeriad hanesyddol. Beth am ail greu plismon oes Victoria, neu nyrs draddodiadol? Gallwch greu cymeriad hawdd ei nabod – Napoleon neu Rufeiniwr! Owain Glyndwr neu Margaret ei wraig!.

Categori 3 – Bwgan y Presenol

Beth am Barrak Obama? Gordon Brown? Rhys Ifans? Pepa Pig? Scooby Doo?

Categori 4 – Grwpiau Bwganod

Tri bwgan yn cael picnic? Westlife yn canu? Tim rygbi Rhuthun? Pob math o ddewis!


Syniadau eraill Ewch ar google a theipio scarecrow mae cannoedd o ddelweddau!

 

Cliciwch i dderbyn Ffurflen Cystadlu

 

 

Interested in sponsoring? Please contact Ron Bell

© Hawlfraint Ymlaen Rhuthun 2010.
Rhaid derbyn caniatad ysgrifennedig Ymlaen Rhuthun cyn defnyddio unrhyw lun neu destyn oddiar y wefan hon.