Sioe Ganoloesol a Gwledig Rhuthun
Penwythnos 26-27 Mehefin 2010
Caeau Glasdir, Rhuthun

Yr Oesoedd Canol!

Ymladdfa a Thwrnament y Marchogion
Dyma gyfle unigryw i wylio twrnament canoloesol gan farchogion pennaf Ewrob. Mewn arena godidog, 80x40 medr, bydd 15 marchog yn cydtadlu, drwy garlamu tuag at eu gilydd mewn gornest. Mae nifer o’r marchogion yma wedi cymeryd rhan mewn ffilmiau megis Robin Hood- Prince of Thieves gyda Kevin Costner, a Legend gyda Tom Cruise.


Ymladdfa’r Milwyr Troed
Dyma ail greu brwydrau rhwng y milwyr troed gyda phicellau a chleddyfau miniog. Hefyd arddangosfa o nerth y bwa hir.


Hanes Byw
Crwydrwch drwy’r pentref hanesyddol sy’n ceisio dangos mor dryw a phosibl, fywyd pobl y cyfnod. Sylwch ar y dillad, yr offer a’r bwydydd! Dysgwch sut i wisgo’r arfwisg; a hyfforddiant Sgweiar. Crefftwyr amrywiol, storiwyr a cherddorion. Dyma gyfle i ddysgu saethu’r bwa hefyd.

Gweithdy Syrcas Canoloesol
Dyma gyfle ichi gymeryd rhan ac i ddysgu jyglo a gwaith y diddanwyr syrcas.

Y Medieval Mounted Minstrelettes
Diddanwyr crwydrol a’u sioe o ddawns, canu a thriciau ceffylau doniol.

Perfformwyr Crwydrol
Cerddwyr stilts, llyncwyr tan, jesters a digrifwyr crwydrol.


Yn y Cylch

Marchogaeth gan yr anabl
Arddangosfa ardderchog o farchogaeth, neidio a cheffylau a throl.

Y Clwb Merlota (Pony Club)
Perfformiad cerddorol o Frwydrau Owain Glyndwr.


Bydd y rhaglen yn cael ei huwchraddio gyda phob ychwanegiad newydd. Cadwch olwg!

 

 

Os hoffech noddi'n gweithgareddwch? cysylltwch a Sarah

Noddir Gan :

 

© Hawlfraint Ymlaen Rhuthun 2010.
Rhaid derbyn caniatad ysgrifennedig Ymlaen Rhuthun cyn defnyddio unrhyw lun neu destyn oddiar y wefan hon.