Amdanom Ni

Daeth Ymlaen Rhuthun i fodolaeth mewn cyfarfod cyhoeddus ym Mawrth 2009.

Ein pwrpas yw hyrwyddo tref Rhuthun, a thrwy hynny codi ymwybyddiaeth ehangach o’r dref., yn ogystal a chefnogi busnesau lleol.

Yn y tymor hir, ein nod yw hyrwyddo’r dref trwy drefnu cyfres o ddigwyddiadau safonol fydd o ddiddordeb byw i’r trigolion, ac yn fodd o ddenu twristiaith ac ymwelwyr i’r dref.

Mae i Ymlaen Rhuthun gyfansoddiad a phwyllgor etholedig, ac mae’r cyfarfodydd oll yn agored i’r cyhoedd. Cymdeithas ddi-elw, a gwirfoddol ydyw, yn ddibynol ar waith gwirfoddolwyr ac ewyllyswyr da. Nid yw’n gwmni masnachol, ond yn ddibynol ar gyfraniadau, ewyllys da, nawdd ac elw y digwyddiadau.

Pebai gennych ddiddordeb mewn gweithio neu roi cyfraniad yna cysylltwch a’r Cadeirydd Jeff Brimble ar 07970 727624.

Dewiswch o’r fwydlen ar y chwith
i ddarllen am ein gweithgareddau

 

 

 

© Hawlfraint Ymlaen Rhuthun 2010.
Rhaid derbyn caniatad ysgrifennedig Ymlaen Rhuthun cyn defnyddio unrhyw lun neu destyn oddiar y wefan hon.